Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i ddau gorff mewn tŷ yn Chwilog, Gwynedd.

Dyw’r un o’r ddau gorff wedi ei adnabod ond mae’n debyg eu bod nhw’n ddyn a dynes yn eu pumdegau a’u bod nhw’n byw yn y tŷ.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw’n ystyried y marwolaethau yn rhai amheus. Mae’r crwner wedi cael gwybod.

Galwyd yr heddlu i’r tŷ am 9.30am ddydd Mawrth.