Caerdydd
Mae gyrrwr tacsi a thad i bump o Gaerdydd a enillodd £1m ar y loteri wedi dweud ei fod yn bwriadu gwario rhywfaint o’i arian ar gar saith sedd newydd sbon.

Cyhoeddwyd heddiw fod Adam Derbi, 35 oed, wedi ennill y wobr ar ôl chwarae EuroMillions Millionaire Raffle.

Fe fydd y tad i bump a’i wraig, Natalia, yn dathlu â phryd mawr o fwyd gyda’r teulu yn eu hoff fwyty.

Maen nhw hefyd yn gobeithio cael symud o’u tŷ teras yn Rhymni, yn ogystal â phrynu car sy’n ddigon mawr i gario’r teulu cyfan.

“Mae £1 miliwn yn lawer iawn o arian, ond mae gen i deulu mawr ac rydw i’n benderfynol o’i wario’n ddoeth,” meddai Adam Derbi, gafodd ei fagu yn Nhrelái.

“Fe fyddwn ni’n chwilio am dŷ a chartref sy’n gweddu i ni, Natalia a’r plantos.

“Bydd yr arian yn rhoi dechrau da mewn bywyd i’n plant ni. Y gobaith yw y bydd arian yn weddill i dalu am gartrefi a cheir iddyn nhw pan maen nhw’n hŷn.”

Ennill

Sylweddolodd Adam Derbi, 35, sy’n cefnogi Clwb Pêl-droed Caerdydd, ei fod wedi ennill wrth gofrestru ar wefan EuroMillions.

Roedd wedi derbyn neges ei fod wedi ennill £5.10 ond ar ôl cyrraedd y wefan gwelodd neges ei fod wedi cipio £1 miliwn.

“Dechreuais i grynu trosaf i ac roedd y cwbl braidd yn swrrealaidd. Doedd Natalia ddim yn fy nghredu i ddechrau – dim ond nawr ydyn ni’n dechrau derbyn y peth.”

Adam Derbi yw’r ail enillydd yng Nghymru mewn llai na mis.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Mark Benbow o Ferthyr Tudful ei fod yn bwriadu mynd a’i wraig ar eu mis mel o’r diwedd – dwy flynedd ar ôl y briodas.