Mae ofnau y bydd 90,000 yn ychwaneg o gartrefi Cymru yn wynebu tlodi tanwydd oherwydd y cynnydd diweddara’ ym mhris nwy a thrydan.

Cyhoeddoedd Nwy Prydain y bydd rhaid i ddefnyddwyr dalu 18% yn fwy am nwy, ac 16% am drydan o ganol mis Awst.

Bydd y newyddion yn peri syndod i gwsmeriaid wedi i brisiau godi 7% prin wyth mis yn ôl.

Amcangyfrifir y bydd naw miliwn o gwsmeriaid yn cael eu heffeithio, ac mae’r Gweinidog Egni wedi galw am newid yn y farchnad drydan ym Mhrydain.

 Ac mae arbenigwraig egni Consumer Focus Wales yn darogan gwae.

 “Bydd yr effaith ar gwsmeriaid yn ddifrifol,” meddai Lindsey Kearton.

“Bydd yn ychwanegu mwy o bwysau eto fyth ar gyllideb cartrefi, ac rydym yn amcangyfrif y gall oddeutu 90,000 o gartrefi ychwanegol ddioddef o ‘dlodi tanwydd’ y gaeaf nesaf o’i herwydd.

 “Bellach, dydi defnyddwyr ddim yn credu fod cwmnïau egni yn poeni am eu problemau nhw. Mae prisiau cyfanwerthol wedi codi, ond maen nhw’n dal i fod yn is na’r uchafbwynt a gyrhaeddwyd yn 2008. Wedi dweud hynny, mae prisiau Nwy Prydain wedi codi’n sylweddol yn y cyfamser; 44% ar nwy a 21% ar drydan, ac mae cyflenwyr yn amlwg yn gwneud elw da.

“Mae Ofgem wedi datgan fod cwmnïau egni’n euog o ymddygiad diog a barus; yn twyllo cwsmeriaid ac yn manteisio ar wendidau strwythurol yn y farchnad. Yn dilyn hyn, mae’n rhaid i Ofgem weithredu.” 

£258 ychwanegol y flwyddyn

 Ar adeg pan mae cartrefi eisoes yn brwydro gyda chostau bwyd uchel, golyga’r codiad diweddaraf yma y bydd nifer yn gwingo dan straen y £192 ychwanegol bob blwyddyn ar ben costau trydan cyfartalog. O ganlyniad, bydd y bil blynyddol yn codi o £1,096 i £1,288 ar gyfartaledd. 

 O ystyried y cynnydd blaenorol o 7%, mae biliau cwsmeriaid wedi codi gwerth £258, neu 25% o gymharu gyda’r £239 (21%) o godiad ym mhrisiau Scottish Power y mis diwethaf.

 Mae’r cyflenwyr yn honni fod cynnydd mewn galw byd-eang, ac effaith aflonyddwch yn y Dwyrain Canol ar fai, ymysg pethau eraill, am y codiad o 30% yn y costau cyfanwerth.