Heno bydd tafarn yn ail-agor yn Llan Ffestiniog yng Ngwynedd, wedi i’r trigolion ddod at ei gilydd i’w hachub rhag cau am byth.
Does gan y Pengwern ddim staff cyflogedig – mae pawb sy’n gweithio yno wedi gwirfoddoli i wneud hynny am ddim.
Ac yn ôl un o’r criw mae’r modd y cafodd y dafarn ei hachub yn wers i weddill Cymru.
Y gymuned sy’n berchen ar, ac yn rheoli’r adeilad sydd wedi cael ei uwchraddio gam wrth gam dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mae gan yr ardal ganolfan eto ac felly mae gan bawb y cyfle i gymdeithasu eto,” meddai Sel Williams ar ran Pengwern Cymunedol.
“Ond mae’n fwy na hynny – mae’r ochr wleidyddol hefyd. Mae’r sector gyhoeddus yn cael ei thanseilio rŵan a dyw’r sector breifat ddim yn mynd i wneud dim byd yn y rhan yma o’r byd, os yn rhywle. A be’ sydd gynnon ni ar ôl ydi’r sector gymunedol. Mae’r faner tu allan yn dweud: ‘Mae’r tŷ hwn yn eiddo i ti a mi’ ond be’ ydan ni eisio yn y pen draw yw: ‘Mae’r wlad yma’n eiddo i ti a mi!’”
Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn nhafarn y Pengwern ym mis Chwefror 2009, ychydig cyn i’r drysau gau, penderfynwyd ceisio sefydlu Pengwern Cymunedol a chafwyd nifer o unigolion o blith pentrefwyr Llan Ffestiniog i fwrw ymlaen â’r gwaith.
Ac mewn cyfarfod cyhoeddus arall yn Neuadd Llan Ffestiniog ym mis Ionawr 2010 cafwyd cefnogaeth frwd i gynlluniau Pengwern Cymunedol.
Y prif amcan oedd i’r gymuned brynu’r gwesty ac ail agor a datblygu’r dafarn, bwyty a’r gwesty a throi rhan o’r adeilad yn eco-lety.
Ers mis Mawrth eleni’r gymuned sydd biau’r Pengwern a’r gymuned sydd yn ei redeg yn ddemocrataidd trwy Fwrdd Rheoli a Bwrdd Cyfarwyddwyr, a etholir gan y cyfranddalwyr sydd wedi prynu gwerth o leiaf £100 o gyfranddaliadau.
Ar ben hynny cafwyd rhoddion gan unigolion a chynhaliwyd nifer o weithgareddau llwyddiannus i ddod ag arian i’r coffrau.
Ond yr un mor allweddol, yn ôl Sel Williams, yw’r 80 o bobol sy’n fodlon gwirfoddoli eu llafur mewn amrywiol ffyrdd.
Nes i’r fenter newydd gael ei thraed dani, gwirfoddolwyr sy’n gwneud y gwaith. Ond y bwriad yn y pen draw yw creu swyddi lleol a chyflogi staff i redeg y Pengwern.
Sefydlwyd Pengwern gyda chefnogaeth Canolfan Cydweithredol Cymru a chafwyd cymorth ariannol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru trwy law Cymdeithas Tai Eryri. Cafwyd arian hefyd o gronfa Cist Gwynedd (Cyngor Gwynedd) i gyflogi person i gydlynu’r gwaith i gyd.
Mae ceisiadau am grantiau cyfalaf i wella’r gwesty eisoes ar y gweill.