Saethodd dyn ei hun brynhawn yma ar ôl herio’r heddlu am 16 awr dros nos, meddai llygaid dystion.

Clywyd un ergyd gwn tua hanner dydd yn Leagrave Common, Luton, Swydd Bedford. Yn ôl yr heddlu mae’r dyn yn dal yn fyw ac yn cael ei drin gan feddygon.

Dywedodd y llygad dyst bod y dyn wedi bod yn gorwedd ar y llawr gan ddal gwn hela i’w ben.

“Roedd ergyd gwn,” meddai. “Mae’r dyn yn gorwedd ar y llawr, ac mae yna heddlu a pharafeddygon o’i amgylch.”

Mae’n debyg bod yr heddlu wedi eu herio gan y dyn tua 8.30pm neithiwr.

Amgylchynodd heddlu arfog y dyn a galwyd ar drafodwyr i geisio ymresymu ag ef.

Yn ôl llygaid dyst roedd y dyn, sydd tua 40 oed, yn eistedd ar gae pêl-droed ger pyst gôl, â bag McDonalds wrth ei ymyl.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y dyn wedi saethu a’i bod hi’n bosib fod un o’r heddweision hefyd wedi saethu.