Mae arglwydd etholedig cyntaf Plaid Cymru wedi addo ymladd dros hawliau pobol anabl wrth iddo gymryd ei le yn yr Ail Siambr am y tro cyntaf heddiw.

Fe fydd Dafydd Wigley yn cael ei noddi gan ei gyd-aelod o’r Blaid, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a’r Arglwydd trawsfeinciol, yr Arglwydd Faulkner o Gaerwrangon, pan fydd yn cymryd ei deitl newydd “Y Barwn Wigley o Gaernarfon yn Sir Gwynedd”.

Gan nad oes gan Blaid Cymru ddigon o aelodau yn yr Ail Siambr i ffurfio’u Grŵp eu hunain, bydd Mr Wigley yn cymryd ei le ar y Meinciau Croes, lle mae Dafydd Elis Thomas hefyd yn eistedd.

‘Gwella bywyd yr anabl’

Yr oedd Dafydd Wigley yn un o noddwyr Deddf Personau Anabl 1981 ac yn rheolwr yr ymgyrch dros Ddeddf 1986. Bu hefyd yn Is Gadeirydd y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Anabledd am ddeng mlynedd tra bu yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Un o’r pethau pwysicaf i mi yn yr Ail Siambr fydd parhau â’m gwaith o godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar bobl anabl a sut y gallwn wella bywyd i’r ganran sylweddol hon o boblogaeth Cymru,” meddai Dafydd Wigley. 

“Does gen i ddim diddordeb yn rhwysg a seremoni’r Arglwyddi, ond mae arna’i eisiau gweithio’n galed dros Gymru yma.”

Dafydd Wigley oedd un o dri o aelodau’r Blaid a etholwyd gan 400 o aelodau Cyngor Cenedlaethol y Blaid ym mis Ionawr 2008, fel y rhai cyntaf i’w henwebu gan y Blaid.

Yr oedd hyn yn dilyn newid ym mholisi’r Blaid, a oedd cyn hyn wedi gwrthod enwebu arglwyddi oherwydd natur anetholedig Tŷ’r Arglwyddi.

Newidiodd y Blaid ei pholisi oherwydd bod ceisiadau am ddeddfwriaeth oedd yn cael eu rhoi gerbron gan lywodraeth Cymru, lle mae’r Blaid yn bartner mewn clymblaid gyda Llafur, yn  agored i gael eu rhwystro gan Dŷ’r Arglwyddi.

“Byddaf yn cadw llygad barcud ar hynt ceisiadau am ddeddfwriaeth Gymreig yn ystod f’amser yma, a byddaf hefyd yn siarad ar faterion yn ymwneud ag economi Cymru a setliad ariannol y Cynulliad Cenedlaethol,” meddai.

“Fel yr Arglwydd cyntaf i gael ei ethol gan aelodaeth plaid, rwy’n gobeithio y gwireddir y syniad o ail siambr llwyr etholedig, a thra byddaf i yma, fe wnaf barhau i ymgyrchu dros ddiwygio’r lle.

“Rwy’n edrych ymlaen at ymgymryd â’r rôl hon ar adeg mor bwysig i Gymru, ac wrth gwrs, rwy’n edrych ymlaen ar ymuno â thri AS rhagorol y Blaid yn Nhŷ’r Cyffredin – tîm sydd eisoes yn gwneud llawer mwy o argraff na’i nifer.”