Fe fu farw milwr o Gymru ar ôl iddo gael ei saethu yn ei ben yn Afghanistan, clywodd cwest heddiw.

Saethwyd y Corporal Jamie Kirkpatrick, 32, o Lanelli, yn ei ben yn ardal Nahr-e Saraj rhanbarth Helmand, ar 27 Mehefin y llynedd.

Roedd Jamie Kirkpatrick, neu ‘KP’ i’w ffrindiau, yn gwisgo ei helmed ar y pryd ond yn ôl archwiliad post mortem tarodd y fwled 7.62mm ef yng nghefn ei ben ac o dan yr helmed.

Fe fyddai wedi colli ymwybyddiaeth yn syth a marw eiliadau yn ddiweddarach, meddai’r adroddiad.

Clywodd y cwest yn Trowbridge, Wiltshire, ei fod wedi marw mewn ardal peryg oedd yn llawn gwrthryfelwyr.

Gwaith Jamie Kirkpatrick oedd clirio dyfeisiau ffrwydrol fel nad oedd milwyr neu gerbydau eraill yn mynd drostyn nhw.

Llwyddodd pedwar o’i gyd-filwyr i symud Jamie Kirkpatrick o’r ffordd ac yn ôl i’r ganolfan filwrol, wrth i’r gwrthryfelwyd saethu tuag atyn nhw.

Aethpwyd ag ef mewn hofrennydd Viking am driniaeth ond roedd hi’n rhy hwyr.

Cofnododd crwner Wiltshire, David Ridley, ei fod wedi ei ladd yn anghyfreithlon wrth wasanaethu.