Dolgellau
Wrth i Sesiwn Fawr Dolgellau ddychwelyd wedi saib o ddwy flynedd, mae un o’r trefnwyr yn rhagweld y bydd yr ŵyl yn hwb i economi’r ardal unwaith eto.

Ac mae Ywain Myfyr yn credu bydd y Sesiwn yn gwneud elw i fynd at dalu’r £20,000 sy’n ddyledus i gredydwyr. 

Wythnos i heddiw fe fydd yr ŵyl yn ôl am y tro cynta’ ers 2008, pan aeth hi’n ffliwt gan adael dyledion o £70,000 yn ei sgil.

 “Y nod eleni yw ail-sefydlu gŵyl ym Meirionydd,” meddai Ywain Myfyr, un o’r trefnwyr.

“Mae yna golled economaidd mawr i’r ardal ers i’r Sesiwn Fawr ddod i ben ddwy flynedd yn ôl. Rydan ni’n gobeithio y bydd yr ŵyl eleni’n gwella pethau’n economaidd.”

Dywedodd hefyd y byddai’n gyfle i drefnwyr “drio talu credydwyr yn ôl”.

Cafodd Sesiwn Fawr Dolgellau ei chynnal yn y dre’ rhwng 1992 a 2008. Ond oherwydd anawsterau ariannol a thywydd gwael

.“Ddwy flynedd yn ol, roedd gyda ni ddyledion o tua 70 o filoedd o bunnoedd – nawr mae ein dyledion i lawr i tua 20 o filoedd,” meddai cyn ychwanegu ei fod yn “ffyddiog y bydd yna elw eleni” ond nad yw’n siŵr faint.

Yn y dyfodol, fe ddywedodd ei fod yn awyddus i gadw ŵyl rhag tyfu’n anghenfil eto.

“O’r blaen, roedd o wedi mynd yn fwystfil o fath oedd yn gwneud y cam rhwng methiant a llwyddiant yn un bychan, gyda methiant yn gallu bod yn enfawr.

“Rydan ni eisiau ceisio cadw’r ŵyl o fewn maint rheolaeth,” meddai.

Y wledd

Mi fydd y Sesiwn eleni yn ddipyn llai peth na’r un wreiddiol, i’w chynnal mewn pabell ger y Clwb Rygbi yn nNolgellau ac yn para deuddydd.

Ar y Gwener bydd Yr Ods, Y Bandana, Creision Hud, After an Alibi, Crash Disco, Swnami a Candelas yn perfformio.

Ar y Sadwrn bydd Mynediad am Ddim, Cowbois Rhos Botwnnog, Calan, Adran D a  Bili Thompson yn diddanu.