Mae undeb gweithwyr y Cyfryngau BECTU wedi beirniadu bwriad S4C i ddal ati i ddangos rhaglenni ddydd a nos gyda swm sylweddol yn llai o gyllid.

Y flwyddyn nesa’ mi fydd y Sianel yn gwario £67 miliwn ar wneud rhaglenni, a’r swm yn syrthio i £65 miliwn ar gyfer 2013/14/15.

Trwy barhau i lenwi’r oriau o saith y bore tan 11 yr hwyr gyda 25% yn llai o arian, yn ôl BECTU mi fydd S4C yn dangos rhaglenni cynyddol waeth…a hynny’n arwain at ei marwolaeth.

Hefyd mae BECTU yn cwyno bod y rhan fwyaf o’r gwaith o gynhyrchu teledu Cymraeg yn nwylo rhyw bedwar neu bump o gwmnïau mawr, a bod angen dychwelyd at yr hen drefn o gyflogi cwmnïau bychan i wneud rhaglenni gwreiddiol gyda blas unigryw Gymreig.

“Os edrychwch chi’n ôl at ddyddiau cynharaf S4C pan oedd hi’n llwyddiant, pan gawson ni Hedd Wyn, Fideo 9 – wnaeth gynhyrchu diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, a beni lan gyda bandiau fel Catatonia, Super Furry Animals, roedd hyd’noed The Stereophonics ar i-dot. Roedd ganddo ni ddiwydiant creadigol oedd yn destun eiddigedd ledled y byd,” meddai Madoc Roberts, swyddog BECTU yn y de.

“Cafodd yr holl raglenni yna eu gwneud gan gwmnïau bach, gan bobol oedd yn angerddol am wneud rhaglenni teledu.

“Heddiw mae’r pwyslais wedi newid, a’r hyn sydd ganddon ni yw cwmnïau mawr, ac mae’r pwyslais ar oroesi fel endid corfforaethol.

“Yr unig ffordd i ddenu’r gynulleidfa yn ôl yw gwneud rhaglenni sy’n well na’r hyn sydd ar yr ochr arall.”

Camgymeriad mawr S4C oedd ceisio gwneud mwy o raglenni gyda’r un faint o arian wrth iddi droi’n sianel ddigidol a gorfod byw heb raglenni Saesneg Channel 4, yn ôl Madoc Roberts.

Annoeth yw ceisio cynnal yr oriau darlledu gyda llai fyth o arian, meddai, gan ddarogan y bydd cadw at yr amserlen bresennol yn “condemnio’r Sianel i wneud rhaglenni gwaeth.”

“Trwy geisio parhau fel hyn gyda 25% yn llai o arian, rwy’n ofni y byddwn ni’n gweld marwolaeth araf S4C.”

 Huw Jones yn wfftio’r beirniaid

 Wrth drafod Adroddiad Blynyddol S4C yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, roedd Huw Jones yn gwrthod beirniadaeth BECTU.

Mi bwysleisiodd bod 40 o gwmnïau mawr a bach yn cael pob cyfle i gyflenwi rhaglenni i S4C.

“Os ydy’r dychymyg a’r ffreshni yn eu syniadau nhw mi ddyle nhw wybod fod y drws yn agored iddyn nhw yn S4C,” meddai Cadeirydd Awdurdod S4C.

 Newyddion da i S4C

 Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn dangos bod cynnydd wedi bod yn y nifer sy’n gwylio rhaglenni Cymraeg eu hiaith ar S4C am y tro cyntaf ers 2003.

Yn 2009 roedd 449,000 yn gwylio o leia’ tair munud o raglen Gymraeg yn wythnosol yng Nghymru, a 102,000 arall yn gwylio S4C Digidol trwy weddill y byd.

Roedd y ffigyrau ar gyfer 2012 yn well, gyda 467,000 yn gwylio teledu Cymraeg bob wythnos yng Nghymru, a 149,000 yn gwylio ar wasanaeth digidol tu allan i’r wlad.

Nifer yn gwylio rhaglenni Cymraeg yng Nghymru:

2003 – 685,000

2004 – 636,000

2005 – 596,000

2006 – 601,000

2007 – 511,000

2008 – 504,000

2009 – 449,000

2010 – 467,000