Lucky cyn colli pwysau
Mae ci dynes gollodd mwy na pum stôn mewn blwyddyn wedi cyflawni’r un gamp.

Bu’n rhaid i Alyson King golli pwysau ar ôl cael cyngor gan ddoctoriaid, a penderfynodd ei fod yn bryd i’w labrador Lucky fynd er ddiet hefyd.

Roedd y fam-gu 49 oed yn arfer pwyso 17 stôn, a’i chi Lucky yn pwyso tua wyth stôn.

Roedd y labrador yn cael trafferth cerdded ar ôl mwynhau gormod o ddanteithion gan gynnwys cinio rhost bob dydd.

Erbyn hyn mae Lucky wedi colli chwarter ei bwysau ac wedi ennill gwobr flynyddol Pet Fit Club PDSA am ei ymdrechion.

Dywedodd ei filfeddyg fod disgwyl iddo fyw am ddwy flynedd yn hirach o ganlyniad i’r colli pwysau.

“Mae’n wir fod anifeiliaid anwes yn efelychu eu perchnogion,” meddai Alyson King, o Rydyfelin, Pontypridd.

“Dechreuais i golli pwysau ar ôl dioddef o grychguriad y galon. Roedd Lucky hefyd yn dioddef o broblemau â’i goesau o ganlyniad i’w faint.

“Felly rydyn ni’n dau wedi bod ar ddiet ac mae’r canlyniadau wedi bod yn syfrdanol.

“Rydyn ni wedi bod yn ymarfer corff gyda’n gilydd. Mae wedi bod yn daith a hanner i ni’n dau.”

Gordewdra

Dechreuodd Lucky ei ddiet ym mis Rhagfyr. Roedd yn pwyso 51.2kg ar y pryd, ond mae bellach yn pwyso dim ond 38.5kg.

“Ers iddo golli pwysau mae Lucky yn llawn bywyd. Os ydw i’n anghofio mynd ag ef am dro mae’n dechrau cwyno!” meddai Alyson King.

Dywedodd PDSA fod un ym mhob tri anifail anwes bellach yn rhy dew. Os yw’r tuedd yn parhau fe fydd 50% yn rhy dew o fewn dwy flynedd, medden nhw.

“Mae gordewdra yn broblem fawr ymysg anifeiliaid anwes Prydain,” meddai Elaine Pendlebury, prif filfeddyg y mudiad.