Nathan Cleverly
Fe fydd Nathan Cleverly yn ymladd am goron is-drwm WBO y byd yn ei ornest nesaf. 

Mae swyddogion WBO wedi gorchymyn i’r pencampwr presennol, Jurgen Braehmer o’r Almaen, ddechrau cynnal trafodaethau â’r Cymro. 

Roedd disgwyl i Braehmer wynebu pencampwr is-drwm WBA y byd, Beibut Shumenov, ddechrau mis Ionawr, ond fe dynnodd yr Almaenwr yn ôl am ei fod yn teimlo’n sâl. 

Fe fydd Braehmer yn colli ei goron os yw’n penderfynu ail drefnu ei ornest yn erbyn Beibut Shumenov, ac fe fydd Cleverly yn gorfod ymladd yn erbyn gwrthwynebydd arall.

Roedd hyrwyddwr Cleverly, Frank Warren, wedi gobeithio cynnal yr ornest rhwng y Cymro a Brahmer yn Lerwpl ym mis Rhagfyr y llynedd.  

Ond mae’n bosib y bydd yr Almaenwr yn dewis wynebu Cleverly yn hytrach na cholli ei goron. Mae gornest ym Mhrydain ym mis Mawrth yn bosib.