Lewis Clarke
Mae’r heddlu wedi cyhuddo dyn o lofruddio Lewis Clarke.

Fe fu farw’r llanc 18 oed dros y penwythnos yn dilyn ymosodiad yn Llanidloes, Powys.

Heno cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys y bydd dyn 20 oed yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandrindod bore yfory wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Daw’r newyddion wrth i rieni Lewis siarad am yn gyhoeddus am eu tor-calon am y tro cyntaf.

Dywedodd ei fam Gale Morris a’i dad Sean Clarke eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd dod i delerau â’u colled.

“Rydyn ni wedi torri ein calonnau ar ôl colli Lewis,” meddai ei fam.

“Roedd yn hogyn cariadus oedd wrth ei fodd â cherddoriaeth ac actio. Roedd yn edrych ymlaen at ymuno â’r Llynges ym mis Tachwedd.”

“Rydyn ni’n amlwg yn ei chael hi’n anodd stumogi a dod i delerau â’i farwolaeth. Roedden ni i gyd yn falch ohono.”

Y cefndir

Cafodd yr heddlu eu galw i fflat yn Nhŷ Pumlumon, Stryd Long Bridge, tua 11.55am ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau am ymosodiad.

Aethpwyd a Lewis mewn ambiwlans awyr i ysbyty’r Amwythig ond fe fu farw tua 7pm.