Ashwin Sanghi (llun Prifysgol Bangor)
Mae myfyriwr ysgrifennu creadigol ym Mangor wedi gwerthu hawliau ei nofel i gwmni ffilmiau rhygnwladol.

Mae Ashwin Sanghi yn astudio ysgrifennu creadigol yn y brifysgol ar hyn o bryd, ac fe gyhoeddodd ei nofel Chanakya’s Chant ym mis Ionawr eleni.

Ar ôl saethu i frig siartiau llyfrau yn ei India frodorol, mae hawliau ffilm nofel hanesyddol a gwleidyddol Ashwin Sanghi wedi cael eu prynnu gan gwmni UTV Motion Pictures.

Dyma ail nofel Ashwin Sanghi, sy’n brysur yn cadw’r dafol yn wastad rhwng ei fusnes llewyrchus yn India, ei astudiaeth ar gyfer doethuriaeth mewn Ysgrifennu Beirniadol a Chreadigol, a’i lenydda.

Mae ei nofel ddiweddaraf yn trafod dwy stori wleidyddol gyfochrog, un yn India 2,300 o flynyddoedd yn ôl, a’r llall yn yr India fodern, annibynnol.

Y nofel

Mae’r stori hanesyddol yn canolbwyntio ar lawer o hanes ffeithiol y strategydd gwleidyddol Chanakya –‘Machiavelli India’.

Mae’r stori gyfoes yn fwy ffuglennol, ond mae dylanwad y strategydd Chanakya yn ran amlwg o hanes y prif gymeriad Pandit Gangasagar Mishra.

Ers ei chyhoeddi yn Ionawr eleni, mae’r nofel wedi cael ymateb ‘eithriadol’, yn ôl yr awdur.

“Mae cenhedlaeth ifanc India ar drywydd hanes y wlad, ond mae’n rhaid ei becynnu ar eu cyfer mewn modd sy’n apelio at y chwaeth gyfoes,” meddai. “Rwy’n gobeithio y bydd y duedd yma’n parhau.”

Dywedodd Dr Nathan Abrams, sy’n un o oruchwylwyr doethuriaeth Ashwin ym Mhrifysgol Bangor, ei fod yn falch iawn drosto.

“Mae hyn yn newyddion gwych,” meddai, “yn gyntaf daeth llwyddiant ein cyn fyfyriwr arall, y cyfarwyddwr Danny Boyle, yng Ngwobrau’r Oscars efo Slumdog Millionaire, a rŵan gallwn ddisgwyl ffilm yn seiliedig ar nofel boblogaidd Ashwin Sanghi.”

Mae Ashwin Sanghi bellach yn gweithio ar ei drydedd nofel, sy’n disgwyl gweld golau dydd tua canol 2012.