Mae cynllun i uno tair prifysgol yn ne Cymru wedi methu ar ôl i un ohonyn nhw roi’r gorau i’r trafodaethau.

Roedd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (UWIC), Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant wedi bod yn trafod uno ers mis Chwefror.

Y nod oedd y byddai un is-ganghellor yn arwain y brifysgol a fyddai wedi ei lansio yn swyddogol ym mis Awst y flwyddyn nesaf.

Ond mae UWIC bellach wedi cyhoeddi nad ydyn nhw am barhau â’r trafodaethau, am nad oedden nhw’n hapus â beth oedd yn cael ei gynnig.

“Ers y dechrau dyw’r trafodaethau heb ein bodloni ni,” meddai llefarydd. “Roedd ddiffyg sylw i drefn lywodraethol a gweinyddiaeth y brifysgol newydd.

“Mae Uwic wedi cefnogi’r syniad o uno’r prifysgolion ac felly yn difaru nad oes modd parhau â’r trafodaethau.

“Fe fydd bwrdd llywodraethwyr Uwic yn trafod beth sydd wedi digwydd ac yn gofyn am farn gweithwyr, myfyrwyr a deiliad diddordeb yn eu cyfarfod nesaf.”

Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru’r llynedd eu bod nhw eisiau haneru nifer y prifysgolion yng Nghymru, o 11 i chwech, erbyn mis Mawrth 2013.

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw mae’n debygol y gallai Uwic ddechrau trafodaethau â Phrifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.

Fe allai Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant fwrw ymlaen â’u cynlluniau i uno.