Wylfa
Bu’n rhaid diffodd tyrbin yng ngorsaf niwclear Wylfa dros y penwythnos wedi nam trydanol, cyhoeddwyd heddiw.

Digwyddodd y nam ar dyrbin rhif 3 yr orsaf niwclear ar Ynys Môn ddydd Sul ac mae cwmni Magnox North yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd llefarydd fod y tri thyrbin arall yn cynhyrchu trydan o hyd. Dyw tyrbin rhif tri heb ei ail-ddechrau eto.

Doedd yna ddim perygl i’r cyhoedd, y staff na’r amgylchedd, meddai.

Roedd disgwyl i’r orsaf niwclear gau ym mis Rhagfyr ar ôl 39 mlynedd, ond cafodd bywyd y safle ei ymestyn am ddwy flynedd arall.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi rhoi sêl bendith i adeiladu gorsaf niwclear arall gerllaw ar ôl i Wylfa gau.

Maent wedi cyhoeddi rhestr o wyth safle sy’n addas i adeiladu gorsafoedd niwclear newydd arnynt erbyn 2025.

Bydd nifer o’r hen orsafoedd niwclear ar y safleoedd hyn yn cau i lawr dros y blynyddoedd nesaf.