Canol Llanidloes (firstjaytee CCA 2.0)
Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal heddiw ar y llanc 18 oed a gafodd ei lofruddio ym Mhowys.

Ac mae’r heddlu’n dal i ofyn am ragor o dystion a gwybodaeth am y digwyddiad yn Llanidloes fore dydd Sadwrn.

Mae dyn 20 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o ladd Lewis Clarke, 18 oed, o’r Drenewydd ond mae’r heddlu eisiau clywed gan ragor o bobol oedd yn y fflat yn Nhŷ Plynlimon lle bu farw.

Fe aeth Heddlu Dyfed-Powys yno ychydig cyn hanner dydd ar ôl derbyn adroddiadau am ymosodiad yno.

Yn y cyfamser, mae ffrindiau Lewis Clarke wedi bod yn talu teyrngedau iddo ar wefannau cymdeithasol.

Mae’n ymddangos ei fod wedi mynd i Lanidloes ar gyfer gŵyl wisg ffansi yn y dref.