Mae dyn 20 oed yn dal yn y ddalfa ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio llanc 18 oed yn Llanidloes, Powys.

Cafodd yr heddlu eu galw i fflat yn Plynlimon House, yn Long Bridge Street yn y dref ychydig cyn hanner dydd ddoe (dydd Sadwrn) yn dilyn adroddiadau am ymosodiad.

Aed â llanc 18 oed i ysbyty Amwythig mewn ambiwlans awyr, ond fe fu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu wedi ei enwi bellach fel Lewis Clarke o’r Drenewydd a hefyd wedi cadarnhau mai o’r Drenewydd y daw’r dyn sydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o’i lofruddio.

Mae swyddog cyswllt teuluol yr heddlu wedi bod gyda theulu Lewis Clarke yn ystod y dydd yn ceisio eu cysuro. Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yfory, dydd Llun.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion i’r digwyddiad.

Meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Shane Williams, sy’n arwain yr ymchwiliad:

“Er ein bod ni wedi arestio rhywun, rydyn  ni’n dal yn awyddus i siarad gydag unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad i farwolaeth drychinebus y person ifanc yma.

“Fe hoffen ni’n arbennig siarad gydag unrhyw un a oedd yn y fflat fore ddoe.”

Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar unwaith ar 101 (01267 222020 o’r tu allan i Ddyfed Powys) neu Taclo’r Tacle’n ddienw ar 0800 555 111.