Fe fydd gorchymyn gwasgaru’n dod i rym ym Mae Colwyn o 6 o’r gloch fore Llun.

Mae’r gorchymyn yn ymateb i bryderon bod ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn rhemp mewn rhannau o’r dref, gyda grwpiau’n ymgynnull i yfed alcohol ac ymladd treisgar yn digwydd ar y stryd.

Fe fydd y gorchymyn ar waith am chwe mis mewn ardal o’r dref er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem.

Diogelu’r cyhoedd

“Mae’r Gorchymyn Gwasgaru wedi cael ei gyflwyno i leihau ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac i wneud i’r cyhoedd deimlo’n ddiogel,” meddai’r Arolygydd Ian Verburg.

“Mae’r mwyafrif llethol o aelodau’r cyhoedd ym Mae Colwyn yn bobl sy’n cadw at y gyfraith ac mae’r gorchymyn hwn yn fesur ataliol i helpu’r heddlu i darfu ar y lleiafrif sy’n benderfynol ar achosi aflonyddwch, dychryn a gofid i eraill.

“Fe fydd yn cael ei ddefnyddio’n deg ac yn cael ei orfodi lle mae gan yr heddlu reswm dros gredu bod grwpiau’n ymgasglu gyda’r bwriad i achosi ymddygiad gwrth-gymdeithasol.”

Grwpiau

Mae’r gorchymyn yn rhoi grym i’r heddlu orchymyn i grwpiau o ddau neu fwy sy’n ymgynnull i adael ardal y gorchymyn. Mae hefyd yn rhoi hawl i blismyn orchymyn grwpiau nad ydyn nhw’n byw yn yr ardal i adael ac i beidio â dychwelyd.

Gallai peidio cydymffurfio â’r gorchymyn arwain at dri mis o garchar a/neu ddirwy o hyd at £2500.

Gofynnir i unrhyw un sy’n dyst i ymddygiad gwrth-gymdeithasol alw gorsaf heddlu Bae Colwyn ar 101 neu’r llinell Gymraeg ar 0845 607 1001.

Mae’r ardal y gorchymyn yn cynnwys Ffordd Abergele, Ffordd Rhiw, Ffordd y Parc a Ffordd Nant y Glyn, yn ogystal â Douglas Road, Rhiw Bank Avenue, Meirion Gardens, Victor Road, Agnes Grove, Grove Park, The Close, a’r garej Shell ar Ffordd Abergele.