Peter Hain
Mae Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid, Peter Hain, wedi dweud y dylai gweithwyr yn y sector gyhoeddus streicio os nad ydyn nhw’n teimlo fod ddewis arall.

Beirniadodd Llywodraeth San Steffan am fethu a thrafod â’r undebau, gan fynnu na fydden nhw’n streicio os nad oedden nhw’n teimlo fod rhaid gwneud hynny.

Dywedodd fod y llywodraeth wedi ymosod mewn modd “di-hid a mympwyol” ar weithwyr yn y sector gyhoeddus.

Bydd 750,000 o athrawon, darlithwyr, gweision sifil a gweithwyr eraill yn y sector gyhoeddus yn mynd ar streic ddydd Iau.

“Dydw i ddim yn credu y dylai arweinwyr gwleidyddol, yn yr wrthblaid neu mewn llywodraeth, glodfori’r streiciau na chwaith eu beirniadu,” meddai wrth yr Andrew Marr Show.

“Beth ddylen ni fod yn ei wneud yw ceisio datrys y streiciau.”

Dywedodd y dylai pobol streicio Ddydd Iau os oeddwn nhw wir yn credu “mai dyna’r unig ddewis sydd ganddyn nhw”.

“Dyw athrawon ac eraill ddim eisiau gorfod streicio,” meddai.

“Fe ddylai y llywodraeth yma gefnu ar eu hymosodiadau unochrog, di-hid ar y gweithwyr yma a dechrau trafod fel y mae pawb wedi gofyn iddyn nhw ei wneud.”