Mae Aelodau Cynulliad o bob plaid  wedi ysgrifennu at Gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC yn tynnu ei sylw at “bryderon am ddyfodol darlledu yma yng Nghymru.”

 Mewn llythyr at Chris Patten mae Bethan Jenkins o Blaid Cymru, Mick Antoniw o’r Blaid Lafur,  y Lib Dem Kirsty Williams a Suzy Davies o Blaid y Ceidwadwyr hefyd yn dweud bod y cynllun i osod S4C dan adain y BBC yn “rhoi dyfodol ein hunig sianel deledu Cymraeg yn y fantol.”

‘Er mwyn i S4C weithredu fel darlledwr effeithiol sydd yn darparu ar gyfer yr hyn mae pobl Cymru ei eisiau, mae’n rhaid iddo fod yn annibynnol ac yn atebol i bobl Cymru. Petai S4C yn cael ei osod dan reolaeth y BBC, fe fyddai’n colli’i annibyniaeth,’ meddai’r gwleidyddionyn y llythyr.

‘Gwrthdaro’

‘Cyn sefydlu S4C, roedd rhaglenni Cymraeg a Saesneg yn mynd benben â’i gilydd gan gystadlu am gyllid ac adnoddau. Gyda’r newidiadau a thoriadau arfaethedig i ddarlledwyr yng Nghymru, credwn y bydd yr un tensiynau yn codi eto.

‘Dim ond y dechrau yw hyn ac wrth i ni weld toriadau a swyddi yn cael eu colli bydd yn golygu fod gwrthdaro rhwng buddiannau siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg.’

Maen nhw’n son eu bod o blaid cael adolygiad annibynnol i ddyfodol S4C, ‘er mwyn caniatáu adolygiad llawn o’r sianel a sicrhau dyfodol llewyrchus i ddarlledu yma yng Nghymru.’

 Mae’n dweud mai ‘dyhead pob Plaid yn y Cynulliad yw dod i setliad a fydd yn sicrhau dyfodol llewyrchus i ddarlledu yng Nghymru.’

 ‘Siomedig’

 Mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr iaith Gymraeg wedi bod yn gwersylla tu allan i ganolfan y BBC ym Mangor drwy’r wythnos er mwyn galw ar y BBC i atal toriadau i’w gwasanaethau yng Nghymru.

Dywedodd yr ymgyrchwyr eu bod nhw’n pryderu am effaith toriadau mewnol y BBC ar y cyfryngau yng Nghymru.

“Mae’r gwersylla wedi bod yn llwyddiant. Cael pawb at ei gilydd. Mae wedi bod yn gynhyrchiol. Rydan ni’n parhau i roi pwysau ar y BBC  – er eu bod nhw’n cadw at yr un llinell.  Rydan ni’n eithaf siomedig nad ydyn nhw’n gwrando ac yn ystyried y peth yn iawn,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth Golwg360.