Mae cynghorwyr yn bwriadu trafod cynlluniau ar gyfer adeiladu pentre’ chwaraeon newydd ar hen wersyll carcharorion rhyfel ym Mhen-y-bont heddiw.

Yn y gorffennol bu sawl cynllun ar gyfer Island Farm, gan gynnwys academi ar gyfer Undeb Rygbi Cymru. 

Ond mae cais diwygiedig wedi ei gyflwyno i Gyngor Pen-y-bont sy’n cynnwys stadiwm rygbi’r gynghrair 15,000 a safle arall ar wahân ar gyfer rygbi’r undeb a phêl-droed. 

Hefyd mae cynlluniau ar gyfer deg cwrt tennis a phwll nofio, ond mae yna wrthwynebiad gan y cyhoedd sy’n poeni am y cynnydd mewn traffig.

Mae gwrthwynebwyr hefyd yn cwestiynu’r angen am dri stadiwm yn y pentref chwaraeon.   

Mae pwyllgor rheoli datblygu’r cyngor wedi argymell cymeradwyo’r cynlluniau, ond mae eu hadroddiad yn dweud y dylai’r cyngor llawn cael y gair olaf ar y mater. 

Un o gefnogwyr y cynllun yw cyn-chwaraewr Cymru a’r Llewod, JJ Williams, sydd wedi dweud na ddylai’r dref golli allan ar y cyfle gan y bydd grwpiau chwaraeon ar draws y wlad yn elwa o’r cynllun. 

 Bydd rhaid i unrhyw gynllun ger bron Llywodraeth Cymru.