Dyfrig Jones
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i gŵyn am luniau ar dudalen Facebook un o gynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd.

Ddoe roedd cylchgrawn Golwg yn datgelu bod  cwyn swyddogol wedi’i gwneud yn erbyn y Cynghorydd Dyfrig Jones ar ôl i nifer o bobol, gan gynnwys un o ohebwyr y cylchgrawn, ddod ar draws y lluniau ar y dudalen Facebook. Roedd y rheiny’n cynnwys:

  • Llun yn dangos babi gyda chan cwrw yn ei law, sigarét heb ei chynnau yn ei geg a llaw oedolyn yn cynnig tân.
  • Un arall yn dangos plentyn ychydig yn hŷn a’r hyn sy’n edrych fel bag plastig dros ei ben.

“Rydym yn gallu cadarnhau ein bod wedi derbyn cwyn am y lluniau sydd wedi ymddangos ar Facebook a rydym yn ymchwilio i’r mater ar hyn o bryd,” meddai llefarydd Heddlu’r Gogledd.

Roedd y gŵyn wedi ei gwneud gan gynghorydd arall, Simon Glyn o Llais Gwynedd, sydd hefyd yn bennaeth ar gartref plant. Roedd yn honni bod y lluniau’n “eithriadol o annerbyniol” ac mae wedi cwyno hefyd wrth y Cyngor a’r adran gwasanaethau cymdeithasol.

Mae Dyfrig Jones wedi gwadu’r honiadau. Mewn datganiad i’r cylchgrawn fe ddywedodd hyn: “Mae’r awgrym fod deunydd sydd yn ‘eithriadol o annerbyniol’ wedi’i osod ar fy nhudalen Facebook yn gwbl anghywir. Rwy’n gwrthod unrhyw honiad fy mod wedi ymddwyn mewn modd amhriodol, ac yn gwbl hyderus y bydd unrhyw ymchwiliad yn dod i’r un casgliad.”

Mae Dyfrig Jones yn cynrychioli Plaid Cymru yn Gerlan, Bethesda, yn aelod o Awdurdod S4C ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.

Mae’r stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg.