Mae pryedron am atomfeydd niwclear ar gynnydd ers y ddamwain yn Fukushima
Does gan Lywodraeth Prydain ddim arian i godi Wylfa B, nac unrhyw orsaf niwclear arall ychwaith, yn ôl dyn sy’n ymgyrchu yn erbyn atomfeydd niwclear ers degawdau.

Er bod Llywodraethau Prydain a Chymru wedi rhoi sêl bendith i godi ail atomfa niwclear ar Ynys Môn, mae Dylan Morgan o fudiad PAWB yn dweud nad oes yna ddigon o arian cyhoeddus ym mhwrs y wlad i dalu am Wylfa B.

Ddoe mi gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan restr o wyth safle sy’n addas ar gyfer adeiladu gorsafoedd niwclear newydd erbyn 2025. Mae pob un ohonyn nhw’r drws nesaf i orsaf niwclear sydd eisoes yn bodoli.

“Dydy’r cyhoeddiad yn ddim byd newydd – dyma tua’r pedwerydd tro i’r rhestr  gael ei chyhoeddi,” meddai Dylan Morgan o PAWB (People Against Wylfa B) wrth Golwg360.

 “Yn y 1980au, roedd Thatcher eisiau codi deg gorsaf niwclear, mi lwyddodd y Llywodraeth i godi un yn unig – yr unig adweithydd dŵr dan bwysedd.

“Rydan ni mewn sefyllfa economaidd llawer gwaeth na diwedd y 1980au, dechrau’r 1990au, a buddsoddiad tramor yw’r unig ffordd i godi’r gorsafoedd hyn nawr.

“Dyw codi gorsafoedd ddim yn rhad. Ac os fydd y Llywodraeth yn driw i’w gair a ddim yn rhoi budd-daliadau cudd – fydd yna ddim gorsafoedd newydd yn cael eu codi…

“Chwifio baneri a chadw’r peth i ffrwtian yw’r pedwerydd cyhoeddiad hwn.”

‘Anghyfrifol’ o gofio Fukushima

Fe ddywedodd Dylan Morgan ei bod yn “anghyfrifol ar ran Llywodraeth Prydain” i fynd i “lawr y llwybr yma. 

“Mae’r Prif Arolygydd Niwclear wedi cyhoeddi adroddiad interim gwyngalchog o drychineb Fukushima. Adroddiad unllygeidiog sy’n gwyngalchu’r diwydiant niwclear Prydeinig.”

Yn ôl yr ymgyrchydd mae’r sefyllfa yn Japan yn dal heb ei datrys.

“Mae’n sefyllfa wirioneddol ddifrifol. Problem ddwys iawn i’r wlad fydd beth i’w wneud â’r wraniwm sydd wedi toddi,” meddai.

“Mae’r trychineb yn Japan am gael effaith economaidd hir dymor ar y wlad. Ydi Prydain yn meddwl ei bod hi werth cymryd y risg ar ôl hynny? Bydd pobl yn methu byw am flynyddoedd yn yr ardal o amgylch Fukushima.

“Dyw risg damwain ac effaith enbyd hynny ar yr economi a’r ardal ddim gwerth ei gymryd yma.”

Wylfa B yn ardderchog – Gillan

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi dweud heddiw bod Wylfa B ar Ynys Môn yn lleoliad delfrydol ar gyfer buddsoddi mewn ynni.

“Mae hyn yn newyddion gwych i Fôn ac economi Gogledd Cymru.

“Mae’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Prydain i gefnogi buddsoddiad mewn prosiectau mawr yng Nghymru. Mae Wylfa yn lleoliad ardderchog. Bydd cyhoeddiad heddiw yn hwb enfawr i’r gweithlu. Mae’n cynnig y posibilrwydd o barhau i gynhyrchu trydan ar yr ynys am flynyddoedd i ddod,” meddai.

Mae cwmni Pŵer Niwclear Horizon wedi croesawu’r  newyddion am Wylfa B hefyd.

“Mae cyhoeddi’r datganiadau hyn yn cynrychioli cam arall ymlaen tuag at ddarparu datblygiadau niwclear newydd ym Mhrydain,” meddai Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredol Horizon.

“Mae Wylfa yn safle gwych ar gyfer adeiladu, a gallai’r datblygiad arfaethedig olygu effaith gadarnhaol tymor hir yng Ngogledd Cymru yn cynnwys dod â channoedd o swyddi a miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i’r ardal. Mae cymeradwyo Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i ni symud ymlaen i ddatblygu ein cais cynllunio.”

 Mae Horizon yn disgwyl gallu rhyddhau manylion pellach am ei gynlluniau ar gyfer Wylfa ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ar ôl dewis y dechnoleg ar gyfer yr adweithydd a’i gonsortiwm o bartneriaid.