Barrie Durkin
Mae Cynghorydd Sir yn galw ar Gyngor Môn i wahardd holl athrawon a llywodraethwyr ysgol gynradd ar yr ynys, sy’ wedi wynebu trafferthion enbyd yn ddiweddar.

Ac mae Barrie Durkin yn rhybuddio y gallai Ysgol Goronwy Owen ym Menllech orfod cau am byth oherwydd y ffrwgwd rhwng y Brifathrawes a’i staff.

Ond mae’r Cyngor Sir yn ffyddiog bod ganddyn nhw gynllun gwerth chweil fydd yn dwyn ffrwyth.

Ers chwe wythnos bellach mae pump o athrawon yr ysgol gynradd wedi bod i ffwrdd o’u gwaith yn sâl, gan adael y Brifathrawes Ann Hughes ar ei phen ei hun gyda chriw o athrawon llanw i ddysgu’r plant.

Mae’r athrawon hefyd, trwy eu hundeb UCAC, wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Brifathrawes.

Mewn ymateb mae’r Cyngor Sir wedi anfon Prifathro arall i’r ysgol, i weithio ochr yn ochr gyda’r Brifathrawes bresennol.

A thra bo’r Cyngor Sir yn talu am ddau Brifathro a phump athro llanw ar y safle, mae rhieni’r disgyblion wedi bod yn cyfarfod yn gyhoeddus i fynegi siom gyda’r sefyllfa.

 Heddiw mae Cynghorydd Sir lleol yn camu fewn i’r ffrae, gan ddweud bod angen cychwyn eto gyda llechen lân.

“Mae llawer o bobl yn fy etholaeth i yn gyrru eu plant yno,” meddai Barrie Durkin, Cynghorydd yn etholaeth Llanbedrgoch, Ynys Môn wrth Golwg360.

“Fy mhryder mwyaf i yw bod yr Awdurdod Addysg Lleol a’r Llywodraethwyr wedi caniatáu i hyn fynd ymlaen am gyhyd,” meddai gan bwysleiso bod anfodlonrwydd wedi bod yn corddi ers “misoedd.”

“Mae rhieni mor bryderus am y peth. Mae’n cael effaith ar y plant. Mae plant angen awyrgylch gwaith adeiladol, disgybledig ac nid anhrefn. Mae’n cael effaith negyddol ar eu sefyllfa.

“Dw i’n meddwl y dylai’r holl staff dysgu, y llywodraethwyr a’r Brifathrawes gael eu gwahardd dros dro a dylai tîm newydd ddod i mewn i sicrhau bod y plant yn cael addysg briodol.

 “Dw i wedi’n siomi’n fawr yn y Cyngor Sir am adael i’r sefyllfa gyrraedd y pwynt hwn. Maen nhw wedi methu yn eu cyfrifoldeb i ofalu am addysg y plant. Mae’n hollol annerbyniol.

“Fe ddylai swyddogion yr Awdurdod Addysg Lleol gael eu gwahardd hefyd, yn arbennig am iddyn nhw adael i hyn fynd ymlaen gyhyd,” ychwanegodd.

Roedd o’r farn bod gan y Cyngor “gyfrifoldeb statudol” i sicrhau addysg plant ac i “beidio’u rhoi mewn sefyllfa lle maen nhw’n treulio’u dyddiau mewn awyrgylch elyniaethus.

“Fy mhryder mwyaf yw bod rhieni’n tynnu’i plant o’r ysgol ac yn eu gyrru i ysgol arall ar yr Ynys. Ac oherwydd nad oes digon yn yr ysgol, ei bod yn cael ei chau, fel maen nhw’n gwneud ar draws yr Ynys.”

Ymateb Cyngor Môn

Yn ôl y Cyngor Sir – sef yr Awdurdod Addysg Lleol i bob bwrpas – mae ganddyn nhw gynllun yn ei le i fynd i’r afael â’r sefyllfa, ac maen nhw’n ffyddiog y bydd ail Brifathro ar y safle yn tawelu’r pryderon.

“Mae’r Pennaeth Strategol, Gareth Williams, eisoes wedi mynychu cyfarfod gyda rhieni, ac wedi cyfarfod y staff hynny sydd adref yn sal,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn wrth Golwg360.

“Bydd hefyd yn barod i gyfarfod gyda rhieni sydd yn dymuno ar lefel un i un.

“Mae’r Cyngor Sir a’r Corff Llywodraethu yn credu y dylid rhoi blaenoriaeth i’r cynllun gweithredu luniwyd er mwyn cefnogi’r ysgol, ac na ddylai ystyried camau pellach ar hyn o bryd.”

UCAC yn poeni

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi cymryd y cam anarferol o ddwyn pryderon athrawon Ysgol Goronwy Owen at sylw’r cyhoedd, gan ddweud bod eu pum aelod ar y staff yno yn bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol os nad oes “camau cadarnhaol” er mwyn gwella pethau yn yn yr ysgol.

Comisiynwyd adroddiad gan y llywodraethwyr “oedd yn amlygu gwendidau sylfaenol yng ngallu arwain a rheoli’r Pennaeth” yn dilyn cwyn ffurfiol gan athrawon, meddai UCAC.