Canol Roazhon (Pline CCA 3.0)
Fe fydd y Prif Weinidog yn mynd i Lydaw heddiw i arwyddo dogfen gydweithredu gyda’r Cyngor Rhanbarthol yno.

Fe fydd Carwyn Jones yn pwysleisio bod y ddwy wlad eisoes yn cydweithredu a bod lle i wneud rhagor o hynny mewn meysydd fel newid hinsawdd a chymorth i ddeheudir Affrica.

Fe gafodd y Prif Weinidog wahoddiad i’r brifddinas Roazhon (Rennes) gan Lywydd y Cyngor Rhanbarthol ac fe fydd yn sôn am gydweithio sydd eisoes yn digwydd mewn meysydd fel diwylliant, iaith, iechyd, amaeth a datblygu cynaliadwy.

Mae’r ddwy wlad hefyd yn aelodau o gynghrair o wledydd a rhanbarthau ar ymylon gorllewinol Ewrop.

Fe fydd Carwyn Jones yn dweud, “Trwy weithio gyda’n gilydd, r’yn ni’n siapio a dylanwadu ar bolisi ar y llwyfan rhyngwladol ac yn hyrwyddo ymhellach rôl llywodraethau rhanbarthol.”