Mae pryder am ddyfodol 1,200 o staff saith o swyddfeydd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yng Nghymru.

Mae dogfen gyfrinachol yn dweud mai Caerdydd yw’r unig un o’r swyddfeydd sy’n bendant o barhau y tu hwnt i 2020.

Dywedodd undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol eu bod nhw’n bwriadu cwrdd â staff  y saith swyddfa sydd heb eu diogelu er mwyn trafod y camau nesaf.

Yn y cyfamser, mae swyddogion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi gwadu eu bod nhw’n bwriadu cau neu symud swyddfeydd.

‘Dim cyhoeddiad ar y gorwel’

Mae 16 swyddfa ar draws Prydain wedi eu clustnodi’n rai ‘diogel’ gan y ddogfen, ond dim ond swyddfa Tŷ Glas yn Llanisien sydd wedi ei chynnwys ar y rhestr ymysg swyddfeydd Cymru.

Mae gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi hefyd swyddfeydd ym Mhrestatyn, Porthmadog, Wrecsam, Merthyr Tydfil, Bae Colwyn a Chaerfyrddin.

Mae unig ganolfan ymholiadau iaith Gymraeg Cyllid a Thollau Cymru wedi ei lleoli ym Mhorthmadog.

“Dydi’r ffigyrau a nodwyd ddim yn rhai newydd,” meddai llefarydd ar ran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, “maen nhw’n rhan o’r newidiadau parhaus sy’n digwydd er mwyn gwella effeithlonrwydd ein gwasanaeth.”