Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dweud ei fod yn obeithiol y bydd San Steffan yn cytuno i ddatganoli grymoedd dros brosiectau ynni mawr i Gymru.

Ar hyn o bryd Adran Egni a Newid Hinsawdd Llywodraeth San Steffan sy’n penderfynu a fydd unrhyw geisiadau cynllunio yng Nghymru fyddai yn cynhyrchu dros 50 megawatt y diwrnod yn cael gweld golau dydd.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ei fod yn “annealladwy” nad ydi penderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru.

Roedd wedi crybwyll y mater heddiw yng nghyfarfod Cyngor Prydain ag Iwerddon yn Llundain, oedd wedi ei gadeirio gan y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg.

“Mae dyfodol ein cyflenwad egni a gwydnwch ein system gynllunio yn faterion o bwys sydd ag effaith mawr ar Gymru,” meddai Carwyn Jones.

“Rydw i wedi rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan a galw ar y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Egni i gael gwared ar yr anacroniaeth yma.

“Fe ddylai pobol Cymru gael yr un faint o ddweud ar y materion yma a phobol yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Yn dilyn fy nghyfarfod â Llywodraeth San Steffan heddiw, cadarnhaodd Gweinidog Egni San Steffan y bydd yn ystyried ein galwadau am ragor o rymoedd, ac yn ymateb yn fuan.”

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r wythnos diwethaf eu bod nhw’n bwriadu cyfyngu ar nifer y datblygiadau ffermydd gwynt.

Daw hynny wedi i ymgyrchwyr wrthwynebu codi melinau gwynt, isbwerdy 29 acr a pheilonau yng Ngheredigion a Phowys.

Ym mis Mai protestiodd 1,500 o bobol yn erbyn y cynllun y tu allan i’r Senedd.