Mae bwrdd enwi’r rhyngrwyd, Icann, wedi penderfynu caniatáu cynnydd sylweddol yn nifer y parthau ar y rhyngrwyd.

Mae’r penderfyniad yn rhoi gobaith newydd i ymgyrch .cym, sydd bellach yn gwthio am yr hawl i gofrestru parth .cymru dros Gymru.

Roedd yr ymgyrchwyr wedi gobeithio bachu’r parth ‘.cym’ i ddechrau, ond datgelodd Golwg 360 ym mis Tachwedd y llynedd bod Ynysoedd Cayman wedi achub y blaen arnyn nhw.

Bydd Icann yn dechrau derbyn ceisiadau am 90 diwrnod o 12 Ionawr 2012.

Bydd yn costio $185,000 i sefydlu’r parth newydd, ac mae’r ffurflen gais 360 tudalen o hyd.

Mae disgwyl y bydd y parthau newydd yn ymddangos ddiwedd 2012 ac yn cael eu categoreiddio yn ôl pynciau gan gynnwys diwydiant, daearyddiaeth ac ieithoedd.

Dim ond 22 parth sy’n bodoli ar hyn o bryd – gan gynnwys .com a .org – ond cyn bo hir bydd modd caniatáu parthau “mewn unrhyw iaith,” meddai Rod Beckstrom, llywydd Icann.

“Mae’r penderfyniad heddiw yn ddechrau cyfnod newydd yn hanes y we,” meddai Peter Dengate Thrush, cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Icann.

Rhoi Cymru ar y map

Bydd parth .cymru yn dangos i’r byd fod y wlad yn bodoli, meddai Siôn Jobbins, Prif Weithredwr y cais wrth Golwg360.

“Rydan ni’n falch iawn bod y cyhoeddiad wedi’i wneud heddiw. Rydyn ni wedi bod yn disgwyl amdano ers bum mlynedd,” meddai gan ddweud y bydd yn “rhoi cais .cymru i mewn erbyn dechrau 2012”.

Dywedodd mai’r her fwyaf sy’n eu hwynebu nhw rŵan yw cost $185,000 sefydlu parth.

“Mae’n amlwg eu bod nhw am wneud yn siŵr nad yw pobl yn gwastraffu amser,” meddai cyn dweud y bydd cwmnïau masnachol yn siŵr o “gymryd mantais” ar y  cyfle i gynyddu nifer y parthau.

“Dyw’r cais .cymru ddim yn un masnachol pur. Bydd yr elw yr ydym ni’n ei wneud yn mynd yn ôl i’r diwylliant a’r diwydiant Cymreig.

“Efallai y bydd Icann yn newid mymryn ar y pris. Bydd yn rhaid cael benthyciadau i dalu am .cymru.”

Serch hynny roedd yn hyderus y byddai “dipyn o alw am .cymru”.

“Bydd yn gwneud lles i fusnesau â chynnyrch Cymreig, i siopau a thimau pêl droed yn ogystal â phethau diwylliannol gan gynnwys corau a sefydliadau,” meddai.

Catalan

“Mae ein cais yn un cryf iawn. Mae Icann yn gwybod amdanon ni. Mae gyda ni’r un fformat a chais a .cat (Catalan) lwyddodd yn 2005. Mae .cat wedi bod yn llwyddiannus iawn,” meddai.

Os caiff cais .cymru ei dderbyn, mae’n bosibl y bydd y parth ar werth i fusnesau ac unigolion o tua 2013 ymlaen, meddai.