Mae nifer y digwyddiadau treisgar yn ysgolion Cymru wedi mwy na haneru tros gyfnod o bedair blynedd.
Yn ôl ffigurau sydd wedi eu cael gan y Ceidwadwyr trwy gais rhyddid gwybodaeth, mae’r achosion wedi syrthio yn ardaloedd pob un o heddluoedd Cymru.
Er hynny, mae llefarydd addysg y blaid, Angela Burns, yn dweud bod angen rhoi blaenoriaeth i’r mater, sydd, meddai, yn achosi pryder i blant a rhieni ac yn cael effaith wael ar ymdrechion i greu amgylchedd saff ar gyfer dysgu.
- Roedd yna 948 o achosion wedi bod ar draws Cymru yn 2007; erbyn 2010, roedd y ffigwr i lawr i 471.
- Mae’r achosion tros y blynyddoedd yn cynnwys troseddau rhywiol, lladrata ac ymosodiadau hiliol.
Ond mae’r ffigurau’n dangos gostyngiad cyson a hynny’n digwydd ar draws pob un o’r pedwar heddlu.
O ardal i ardal
Dyma’r manylion o’r newid rhwng 2007 a 2010:
Ardal Heddlu Gogledd Cymru – i lawr o 131 i 118.
Ardal Heddlu De Cymru – i lawr o 585 i 228
Ardal Heddlu Dyfed Powys – i lawr o 100 i 44
Ardal Heddlu Gwent – i lawr o 132 i 81.