Prifysgol Bangor

Mae prosiect newydd gwerth dros £23 miliwn wedi cael ei lansio’n swyddogol i geisio datblygu busnesau sy’n gysylltiedig â’r môr.

Y nod yw annog cydweithio rhwng busnesau preifat a phrifysgolion gan droi syniadau ymchwil arloesol yn brosesau, gwasanaethau a thechnolegau newydd.

Y syniad wedyn yw bod y rheiny’n cael eu datblygu gan fusnesau’n gan hybu twf, creu swyddi uwch-dechnoleg newydd ac ennill contractau.

Fe allai’r busnesau amrywio o beirianneg i ynni gwynt a llanw, twristiaeth a bioleg a chemeg – allan yn y môr neu ar y lan.

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Brifysgol Bangor ac mae’n cael cymorth £12.6 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Enw’r prosiect yw Mae’r fenter Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn Dull Cynaliadwy (SEACAMS).

Meddai Carwyn Jones

“Mae sector gwyddorau’r môr yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn economi Cymru, a bydd y prosiect cyffrous hwn yn helpu i wthio’r twf yn ei flaen gan greu swyddi a buddsoddiad,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones.

“Bydd gwell cysylltiadau rhwng ein Prifysgolion a’r sector preifat yn ei gwneud yn bosibl iddyn nhw gyflawni eu potensial masnachol a gwneud y gorau o’r cyfleoedd sydd ar gael”

“Dw i am weld Cymru yn arwain y ffordd yn y meysydd hyn sy’n dod i’r amlwg, megis ynni adnewyddadwy.”