Fydd Shearer ddimyn dod i Stadiwm Dinas Caerdydd
Fydd cyn chwaraewr Lloegr, Alan Shearer, ddim yn dod yn rheolwr ar glwb pêl-droed Caerdydd.

Ganol nos neithiwr, fe gyhoeddodd y cyn flaenwr fod y trafodaethau rhyngddo a chlwb y brifddinas wedi methu.

Yn ystod y dydd ddoe, roedd y dyfalu wedi cynyddu’n sydyn bod hen arwr Newcastle United yn ystyried dod i Gaerdydd.

Yn ei ddatganiad, fe gadarnhaodd Shearer ei fod yn un o’r rhai oedd wedi cynnig am y swydd a’i fod wedi cael trafodaethau gyda’r clwb.

Datganiad Shearer

“Yn ystod y trafodaethau hynny, fe wnaeth gweledigaeth, uchelgais a phenderfyniad y perchennog a’r bwrdd argraff fawr arna’ i,” meddai Alan Shearer.

“Yn anffodus, roedd y trafodaethau hynny’n aflwyddiannus y tro yma. Mae Caerdydd yn glwb gwych a dw i’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn ystod y tymor nesa’.”

Y ffefryn o hyd yw Malcolm ‘Malky’ Mackay, rheolwr Watford, a’r disgwyl yw y bydd Caerdydd yn gwneud cais i siarad ag ef.