Cwrw Tomos Watkins
Mae bragdy Tomos Watkin yn bwriadu gwerthu cwrw dihopys newydd er mwyn datglu dyrchafiad Abertawe i Uwch Gynghrair Lloegr.

Dywedodd y cwmni na fydd y cwrw yn cael ei werthu yng Nghaerdydd – “rhag ofn i ni dramgwyddo ein cefnogwyr yno”.

Mae Premier Ale yn cynnwys llun o alarch, symbol Clwb Pêl-droed Abertawe, a’r geiriau “Ddim mor hyll erbyn hyn!”

Fe fydd y cwrw yn cael ei werthu yn nhafarndai de-orllewin Cymru a gobeith perchennog y bragdy yw y bydd ymwelwyr i Abertawe yn cael blas arno.

“Fyddwn i ddim yn synnu pe bai cefnogwyr o Newcastle, Manceinion a Lerpwl yn rhoi cynnig arno,” meddai Phil Parry wrth bapur newydd y Western Mail.

“Rydyn ni wedi penderfynu peidio ei werthu yng Nghaerdydd  rhag ofn i ni dramgwyddo ein cefnogwyr yno.

“Ond rydw i;n siwr y bydd pobol Abertawe yn hapus i allu cynnig lwncdestun i lwyddiany yr Elyrch â cwrw arbennig sydd wedi ei greu er mwyn nodi’r achlysur.”