Fe fuodd mwy na 20 o ddiffoddwyr tân yn brwydro’r fflamau mewn warws yn Cwmbran neithiwr.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod cyn warws Complete Homes ar Ffordd Avondale wedi ei ddifrodi’n ddrwg.

Mae’r tân yn cael ei ystyried yn un amheus ac mae’r heddlu wedi arestio bachgen 15 oed ar amheuaeth o losgi bwriadol.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân eu bod nhw wedi derbyn galwad tua 7.15pm yn dweud fod tân yno.

Roedd yr heddlu wedi cynghori trigolion lleol i gau eu drysau a’u ffenestri fel nad oedd y mwg trwchus yn mynd i’w tai.