Ieuan Wyn Jones - ar ei wyliau
Roedd Ieuan Wyn Jones wedi anfon ei ymddiheuriadau o flaen llaw at y Frenhines am na fyddai yn bresennol yn yr agoriad swyddogol y Senedd ddoe, meddai Plaid Cymru heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid wrth Golwg 360 ei fod ar wyliau estynedig ar hyn o bryd – gwyliau yr oedd wedi eu trefnu ymhell o flaen llaw, cyn iddo wybod dyddiad agoriad swyddogol y Senedd.

Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi ei feirniadu’n llym dros y deuddydd diwethaf ar ôl methu a bod yn bresennol yn y Senedd.

Yn ogystal â methu ymweliad y Frenhines ddoe, cafodd ei feirniadu gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, heddiw.

Dywedodd fod penderfyniad Ieuan Wyn Jones i gadw draw yn ystod tymor y Cynulliad yn “anghredadwy”.

“Nid y neges yr ydyn ni eisiau ei gyfleu ydi bod yr wrthblaid yn gallu mynd ar eu gwyliau,” meddai Carwyn Jones.

Dywedodd swyddfa Plaid Cymru fod eu harweinydd wedi anfon ei ymddiheuriadau at y Frenhines cyn ei hymweliad a’r Senedd ddoe, ac y dylai fod yn ôl ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf.