Bu’n rhaid i deithwyr adael trên ger Rhyl bore ma ar ôl i fwg ddechrau codi ohono.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am 11.21am a’r trên ei symud i lein aros. Roedd yn teithio o Llandudno i gyfeiriad Caer.
Doedd neb wedi ei hanafu ac fe aethpwyd a’r teithwyr i Gaer ar fws.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru eu bod nhw wedi ymchwilio i beth achosodd y mwg ac yn credu fod gasged wedi ffrwydro.
Caodd y rheilffordd ei ail-agor am 12.20pm.