Roedd saith car ac un lori yn rhan o wrthdrawiad gaeodd hewl orllewinol yr M4 dros dro ger Casnewydd bore ma.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 9.30am ger cyffordd 28 Parc Tredegar gan arwain at oedi hir.

Mae’r ffordd bellach wedi ailagor. Dywedodd Heddlu Gwent fod rhai o’r rheini fu’n rhan o’r ddamwain wedi dioddef mân anafiadau.