Solfach
Mae hyd at 55 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn ymladd tân ger Solfach yn Sir Benfro er mwyn ei atal rhag cyrraedd cartrefi yno.

Ymatebodd y Gwasanaeth Tân i alwad yn rhoi gwybod am y tân porfa oddi ar Brif Stryd Solfach am 11.25pm neithiwr.

Roedd y tân wedi lledaenu dros dri hectar ac roedd yna bryder y gallai ledaenu ymhellach tuag at res o dai gerllaw.

“Roedd 55 o ddiffoddwyr yn ymladd yn erbyn y fflamau ar y borfa a’r gors er mwyn ei atal rhag lledaenu at y tai,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Erbyn hyn mae yna dair injan dân ar ôl ar y safle, ac mae uned amgylcheddol hefyd yn bresennol i asesu unrhyw ddifrod i lendid dŵr y pentref glan-môr.