Aberdaugleddau

Mae pedwar o bobol wedu eu lladd mewn purfa olew yn Aberdaugleddau, Sir Benfro.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw ar ôl y ffrwydrad ar safle Chevron tua 6.20 neithiwr.

Ar y dechrau, roedd adroddiadau’n sôn am ddamwain rhwng dwy dancer olew a dwy farwolaeth.

Yn oriau mân y bore, fe gododd nifer y meirwon i bedwar ac fe ddaeth cadarnhad fod y ffrwydrad wedi digwydd mewn tanc storio a’r fflamau wedi lledu i danc arall.

Mae un dyn arall yn ddifrifol wael yn yr ysbyty ac mae Chevron wedi cadarnhau mai contractwyr oedd y gweithwyr i gyd.

Chevron yn addo ymchwiliad

“Mae’r newyddion yn gwbl ddychrynllyd,” meddai Greg Hanggi, Rheolwr Cyffredinol y gwaith. “Mae colli ein cydweithwyr yn sioc anferth i ni i gyd.

“Fe fyddwn ni’n gwneud popeth posib i benderfynu beth oedd y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at y drasiedi yma a sicrhau bod unrhyw wersi sy’n cael eu dysgu’n dod yn rhan o’r busnes ac yn cael eu rhannu gyda’n partneriaid busnes.”

Trin cleifion

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod parafeyddygon wedi trin cleifion ar y safle.

Roedd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dweud yn gynharach fod 10 injan dân wedi mynd yno.

Roedd mwg du i’w weld yn codi uwchben yn safle ar ôl y ffrwydrad ac fe ddywedodd llygaid dystion eu bod nhw wedi clywed ffrwydrad a gweld fflamau. Roedd y tân wedi’i ddiffodd erbyn tua 7.30pm.

Chevron – y cefndir

Purfa Chevron yw un o’r rhai mwya’ yng ngorllewin Ewrop ac mae tua 1,400 o weithwyr yno.

Pan oedd yn nwylo cwmni Texaco, fe gafwyd tân mawr yno yn 1994.

Mae’r cwmni Americanaidd, Valero, wedi cytuno i brynu’r burfa a garejus chevron yn yr Unol Daleithiau ac Iwerddon am gyfanswm o fwy na £1 biliwn.