Carchar Altcourse
Mae protestiwr iaith wedi dweud fod ei benderfyniad i fynd heb fwyd am ei gyfnod dan glo wedi llywio penderfyniad yr awdurdodau i’w ryddhau’n fuan.

Rhyddhawyd Geraint Jones o Garchar Altcourse yn Lerpwl ar ôl un noson, er iddo gael ei ddedfrydu i 10 diwrnod gan y llys.

Roedd yn protestio bod gormod o Saesneg ar Radio Cymru, ac wedi  gwrthod talu dirwy a chostau yn deillio o’i fethiant bwriadol i dalu am drwydded deledu.

“Dyma fi’n dweud wrthyn nhw fy mod i ar ympryd, a newidiodd eu hagwedd yn llwyr,” meddai’r pensiynwr o Drefor oedd y cynta’ i fynd i’r carchar dros yr iaith Gymraeg yn y 1960au.

Mi wnaeth o wrthod swper yn y carchar ar y nos Iau, a brecwast drannoeth a hefyd gwrthod llenwi ffurflen i nodi beth oedd am ddewis fwyta dros benwythnos gŵyl y banc.

“Mi ges i lasiad o ddŵr i ginio dydd Gwener, a dyma nhw’n sylweddoli mod i o ddifri’… ac mi faswn i wedi mynd yr wyth niwrnod heb fwyd hefyd.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 2 Mehefin