Thus
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgfol Caerdydd yn credu y gallai thus fod o fudd wrth leddfu poen pobol sy’n dioddef o grydcymalau.

Mae dau ŵr ac un gwraig doeth o’r Brifysgol wedi bod yn ymchwilio i allu thus, un o’r tri anrheg a roddwyd i’r Baban Iesu, i leddfu ar symptomau y cyflwr poenus.

“Rydyn ni wedi bod yn chwilio am amser hir am fodd o esmwytho ar symptomau crydcymalau ac osteoarthritis,” meddai’r Athro Emma Blain o’r Brifysgol.

“Mae gan Gymru gysylltiadau cryf â’r gymuned Somali sydd wedi bod yn defnyddio thus er mwyn gwella’r crydcymalau,” meddai.

Mae hi wedi bod yn ymchwilio i effaith thus ar grydcymalau ar y cyd â’r Athro Vic Duance a Dr Ahmed Ali o’r brifysgol.

“Mae ein hymchwil ni wedi wedi canolbwyntio ar weld a ydi thus yn gallu emswytho rywfaint ar y llid sy’n achosi’r poen,” meddai.

Dywedodd eu bod nhw bellach yn credu fod thus yn atal cynhyrchiad y moliciwlau sy’n achosi’r llid.

“Y nod nawr fydd cymharu llwyddiant y cemegyn o’i gymharu â chyffuriau eraill sydd eisoes yn cael eu defnyddio er mwyn trin y cyflwr,” meddai Ahmed Ali.