Paul Flynn
Mae un o Aelodau Seneddol y Blaid Lafur yng Nghymru wedi galw ar Lywodraeth San Steffan i ddilyn esiampl yr Almaen a throi cefn ar ynni niwclear.

Ddoe cyhoeddodd Llywodraeth yr Almaen y bydd yn cau pob un o orsafoedd niwclear y wlad erbyn 2022.

Roedd y Canghellor Angela Merkel wedi gwthio mesurau trwodd y llynedd i ymestyn oes 17 gorsaf niwclear y wlad, ond mae hi bellach wedi gwyrdroi’r polisi yma yn sgil trychineb Fukushima yn Japan.

Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn, y dylai Llywodraeth San Steffan gydnabod “nad oes budd” i adeiladu rhagor o bwerdai niwclear.

Fe ddylai Prydain fwrw ymlaen â chynlluniau i wneud rhagor o ddefnydd o egni adnewyddadwy fydd yn cymryd mantais o egni’r llanw, meddai.

“Mae’r dechnoleg yn syml, mae’r Brydeinig, mai am ddim, ni fydd yn dod i ben – beth arall sydd ei angen?” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.

Dywedodd y gallai tsunami neu ddaeargryn fel y tarodd Japan hefyd effeithio ar bwerdai niwclear ym Mhrydain.

“Roedd tsunami ym Mor Hafren yn 1607. Lladdodd llawer iawn o bobol ac anifeiliaid yn fy etholaeth i,” meddai.