Cerys Matthews yn annerch Eisteddfod yr Urdd y bore yma
Er nad oedd Llywydd y Dydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd “wedi bod yn llwyddiannus iawn fel cystadleuydd” – dywed heddiw nad “ennill” yw’r pwynt.

Dywedodd y gantores adnabyddus Cerys Matthews fod yr Eisteddfod a gweithgareddau mudiad yr Urdd yn rhoi blas i blant o gyfoeth diwylliant Cymru.

Fe gafodd Cerys Matthews, 42 sy’n wreiddiol o Gaerdydd, ei magu yn Abertawe a Sir Benfro a chafodd ei haddysg gynradd yn Ysgol Gymraeg Bryn y Môr, Abertawe.

“Roedd Eisteddfodau yn rhan o’m magwraeth i yn Abertawe, er nad oeddwn i yn llwyddiannus iawn fel cystadleuydd! Felly mae dychwelyd y tro hwn i’r Maes yn Felindre i berfformio yn y Cyngerdd Agoriadol ac fel Llywydd y Dydd yn wych ac yn fraint,”  meddai.

“Dw i’n meddwl beth oeddwn i wastad yn mwynhau oedd dysgu’r caneuon …” meddai Cerys Matthews wrth Golwg360 wrth gofio ei dyddiau cystadlu.

‘Braint’

“Mae’n fraint mawr fod yma fel Llywydd. Mae gen i fathodyn ‘dw i’n gwisgo’n eithaf amlwg yma achos nes i ddim gwneud yn dda iawn yn yr eisteddfodau fel plentyn – byth ennill. Ond, dim dyna’r pwynt.

“Mae pobl yn gofyn i mi drwy’r amser pam mae eisteddfodau’n bwysig… Dw i’n meddwl beth sydd wedi dod yn glir i fi ydi  – ‘dw i ’di bod yn canu hen ganeuon Cymraeg ar draws y byd… ac mae’r cynulleidfaoedd gymaint  o eisiau clywed yr hen ganeuon  yma…”

“Dyma beth sy’n bwysig am dyfu lan yng Nghymru. Rydach chi’n dysgu’r etifeddiaeth yma. Y trysor mawr ’ma sydd gyda ni – heb eich bod chi hyd yn  oed yn sylweddoli.

“Rydych chi’n gwybod yr hen ganeuon yma a’r hen straeon fel bod e’n rhywbeth naturiol a sai byth moyn anghofio pa mor bwysig ma’ hynny wedi bod. Hyd yn oed os nad ydych chi am fynd ymlaen i wneud miwsig neu recitals neu ddawnsio fel swydd- mae gyda chi’r  trysor ‘ma trwy eich bywyd.”

Ymhlith ei gweithgareddau fel Llywydd y Dydd heddiw fydd chwarae gitâr ar y maes…

“…Dw i’n mynd i chwarae gitâr ar y maes sy’n lyfli. Achos  yn aml iawn yn yr Eisteddfod mae’r lleisiau clasurol yma. Mae’n eithaf neis i gael lleisiau mwy naturiol falle, ‘less polished’ a’r hen ganeuon fyddai’n canu a ‘dw i’n excited i wneud hynny”.

‘Ar draws y byd’

“Dw i’n son wrth bobl yn Lloegr, America ac ar draws y byd am etifeddiaeth Cymru,” meddai.

“Dw i wedi gwneud gyrfa o fwynhad geiria a’r hud mewn geiriau, lle mae hwnna wedi dechrau? Yng Nghymru rili a’r hen farddoniaeth ac  ansawdd delynegol geiriau a cherddoriaeth … Ac wedyn fi’n mynd mas o Gymru a ma pobl yn mwynhau’r pethau ’ma fyd, yn Lloegr, yr Alban , Iwerddon ac America.”

“Dw i mor falch i fod yn Abertawe … Y peth pwysicaf am Abertawe yw ysgol gynradd Bryn y Môr. ‘Dw i ffili diolch i’r athrawon ddigon. Fe wnaethon nhw sbarduno cariad at iaith, barddoniaeth a chanu caneuon Cymraeg. Oedd yr athrawon yn amazing…”

I unrhyw berson ifanc sydd eisiau gyrfa ym myd cerddoriaeth – cyngor y gantores enwog yw “ffeindio’ch llais eich hunain…Beth bynnag sydd yn y galon.”