Troi bron i chwarter tir amaethyddol Cymru yn goedwigoedd fydd un o argymhellion adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi gan Weinidog Amgylchedd San Steffan ddydd Iau.
Yn ôl y National Ecosystem Assessment, astudiaeth wyddonol a gafodd ei chomisiynu gan y Llywodraeth, fe fyddai’n gwneud synnwyr economaidd i droi miloedd o erwau o dir amaethyddol yn goedwigaeth i ddibenion hamdden trigolion dinasoedd cyfagos.
Mae’r adroddiad yn gwneud argymhelliad penodol i droi ardaloedd yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn goedwigoedd er budd trigolion Lerpwl a Manceinion.
“Fe fyddai coetiroedd yng ngogledd-ddwyrain Cymru o werth adloniadol anferthol i ddinasoedd cyfagos yn Lloegr,” meddai awdur yr adroddiad, yr Athro Ian Bateman, arbenigwr mewn economeg amgylcheddol.
Mae’n argymell mesurau tebyg yng nghyffiniau Abertawe a Chaerdydd yn ogystal.
“Mae coedwigoedd yn werth mwy mewn ardaloedd sydd gerllaw dinasoedd gan eu bod yn cynnig budd hamdden i gymaint o bobl,” meddai.
Newidiadau
Mae’r adroddiad yn edrych ar Brydain i gyd ac yn rhagweld newid mewn patrymau amaethyddol dros flynyddoedd i ddod. Mae’n darogan y gall de-ddwyrain Lloegr fynd yn rhy sych i dyfu grawn, ond y gall amaethyddiaeth gogledd Lloegr a’r Alban elwa o gynhesu byd-eang.
Ond mae’n tynnu sylw penodol at ddiffygion amaethyddiaeth Cymru:
“Mae’r rhan fwyaf o Gymru wedi cael ei orchuddio gan ffermydd, ond dyw ffermydd ond yn cael eu gwobrwyo am gynhyrchu bwyd o werth isel fel cig oen,” meddai’r Athro Bateman.
“Ond pe bai cymorthdaliadau Ewropeaidd yn cael eu defnyddio i wobrwyo ffermwyr am gynhyrchu canlyniadau o werth uwch, fel adloniant gerllaw dinasoedd, neu storio carbon a chreu cynefinoedd i fywyd gwyllt, yna byddai cymdeithas a ffermwyr yn elwa.”