Sigarets (geierunited CCA 3.0)
Mae mudiad ymgyrchu yn erbyn baco wedi galw am ei gwneud hi’n drosedd i bobol ifanc dan 18 fod â sigaréts yn eu meddiant.

Maen nhw hefyd eisiau cofrestr o bawb sy’n gwerthu baco ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i wahardd arddangos sigaréts mewn siopau.

Mae ASH Cymru wedi cyhoeddi eu galwad ar gyfer Diwrnod Dim Baco’r Byd ddydd Mawrth, gan ddweud ei bod yn angenrheidiol atal pobol ifanc rhag troi at smygu.

Fe fydd smocio’n arwain pobol ifanc at arferion eraill, fel defnyddio alcohol a chyffuriau, meddai’r elusen.

Maen nhw hefyd yn galw am ei gwneud yn anghyfreithlon i werthu baco i bobol dan 18 oed ac i sicrhau nad yw cwmnïau baco’n gallu dylanwadu ar bolisi iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

‘Rhaid gweithredu’n ddewr’

Eu dadl yw fod gwledydd fel Yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes yn cynnal cofrestr o werthwyr baco, sy’n rhoi cyfle i wneud perchnogion siopau’n ymwybodol o’u cyfrifoldebau.

“Rhaid i’n harweinwyr gwleidyddol ymateb yn weithredol ac yn ddewr i warchod iechyd oedolion Cymru ac i atal y genhedlaeth nesa’ rhag mynd yn gaeth i gynnyrch a fydd yn lladd hanner ei ddefnyddwyr,” meddai Prif Weithredwr ASH Cymru, Tanya Buchanan.