Mae teulu dyn oedd yn diodde’ o anhwylderau meddwl a fu farw tra yn y ddalfa, yn dweud y dylai’r plismyn oedd yn gofalu amdano wynebu llys.

Mae Heddlu Gwent wedi cael eu beirniadu yn dilyn marwolaeth Andrew David Sheppard, oedd yn cael ei ddal yng ngorsaf heddlu canolog Casnewydd ar ôl ymddwyn yn afresymol.

Roedd cocên a chyffuriau eraill yng nghorff y dyn 22 oed, ac roedd archwiliad fforensig yn awgrymu ei fod wedi cymryd y cyffuriau tra’n cael ei ddal gan yr Heddlu.

Yn dilyn cwest i’w farwolaeth, mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi cyhoeddi adroddiad yn dweud bod yr heddlu wedi methu amddiffyn Andrew David Sheppard rhag niwed.

Mae un swyddog wedi derbyn dirwy o 13 diwrnod o dâl a thri arall wedi derbyn cerydd. Fe wnaeth swyddogion eraill dderbyn cyngor yn ymwneud â rheolaeth hefyd.

Ond mae’r teulu yn eisiau dwyn cyhuddiadau yn erbyn y swyddogion. 

Roedd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu eisoes wedi gwneud wyth argymhelliad i Heddlu Gwent am eu polisi o ran cadw pobl yn y ddalfa – ac mae’r awgrymiadau hynny wedi eu derbyn ac yn cael eu gweithredu ers marwolaeth Andrew David Sheppard.