Mae yna ormod o bwyslais ar atal pobol ifanc rhag goryfed, a dim digon o sylw yn cael ei roi i oryfed ymysg pobol hŷn, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd Alcohol Concern Cymru fod pobol yn tueddu i yfed llai wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, ond bod rhai pobol ifanc sy’n yfed yn drwm yn parhau i wneud hŷnny yn hwyrach yn eu bywydau.
Mae’r adroddiad, Niwed cudd? Alcohol a Phobol Hŷn yng Nghymru yn awgrymu fod ymddeol a phrofedigaeth yn gallu arwain at yfed trwm yn hwyrach ymlaen.
Mae yna bryder fod doctoriaid yn llai parod i awgrymu wrth gleifion hŷn fod eu problemau yn deillio o oryfed, meddai’r adroddiad.
“Mae yna lawer iawn o sylw wedi ei roi i ar oryfed ymysg pobol ifanc ar strydoedd ein trefi a’n dinasoedd,” meddai Andrew Misell, rheolwr Alcohol Concern Cymru.
“Ond ni ddylen ni esgeuluso’r problemau eraill y mae alcohol yn gallu eu hachosi.
“Wrth i nifer y bobol sydd dros oed ymddeol gynyddu, mae rhai ymchwilwyr wedi awgrymu bod epidemig cudd o bobol hŷn sy’n gaeth i alcohol.
“Rydyn ni’n galw am weithredu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, fel bod rhagor o bobol yng Nghymru yn gallu mwynhau ymddeoliad iach.”
Problem ‘ymysg y dosbarth canol’
Dywedodd Wynford Ellis Owen, prif weithredwr Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, bod y rhan fwyaf o bobol y mae’n dod ar eu traws yn eu 30au a’u 40au.
“Mae’n beth prin gweld pobol hŷn oherwydd bod y bobol sy’n dioddef o broblemau yn ymwneud ag alcohol a chyffuriau eraill naill ai wedi marw neu wedi llwyddo i ddod dros y broblem.
“Yn aml pan mae pobol yn yfed yn drwm yn hwyrach ymlaen yn eu bywydau mae yna rywbeth sy’n achosi hŷnny – ymddeoliad neu brofedigaeth, er enghraifft.
“Fel arfer pan mae pobol yn meddwl am alcohol maen nhw’n am bobol sydd heb ddim – ond nid dyna lle mae’r broblem go iawn.
“Y bobol mewn siwtiau a swyddi da sy’n dioddef. Mae yna lawer iawn o gamddefnyddio alcohol ymysg y dosbarth canol.”