Llys y Goron Abertawe
Mae’r rheithgor yn achos gwas fferm sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio pedwar person â gwn hela wedi ymneilltuo er mwyn ystyried eu dedfryd.

Mae achos llys John Cooper, 66 oed, Treletert, ger Abergwaun, yn Sir Benfro, wedi bod yn mynd rhagddo yn Llys y Goron Abertawe ers canol mis Mawrth.

Mae wedi ei gyhuddo o 11 o gyhuddiadau ar wahân gan gynnwys pedwar llofruddiaeth, un achos o dreisio, ymosodiad rhywiol a chyfres o ladradau.

Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio’r ffermwr Richard Thomas, 58, a’i chwaer Helen, 54, yn eu plasty yn Sir Benfro ym mis Rhagfyr 1985.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o lofruddio’r twristiaid Peter Dixon, 51, a’i wraig Gwenda, 52, ar ddiwrnod olaf eu gwyliau pedair blynedd yn ddiweddarach.

Ymosodwyd ar y pâr priod, o Swydd Rydychen, wrth iddyn nhw gerdded ar hyd llwybr arfordirol y sir ym mis Mehefin 1989.

Fe fu farw’r ddau gwpwl ar ôl cael eu saethu o agos â gwn hela.

Mae Cooper hefyd wedi ei gyhuddo o ladrata ac ymosod ar bum person ifanc mewn cae ger Aberdaugleddau ym mis Mawrth 1996.

Cafodd merch ifanc ei threisio a dioddefodd un arall ymosodiad rhywiol yn ystod yr ymosodiad gan ddyn oedd yn gwisgo masg ac yn cario gwn hela.

Mae’n gwadu pob un o’r cyhuddiadau yn ei erbyn.