Mae’r heddlu wedi galw am lygaid dystion yn dilyn lladrad o Swyddfa Bost ar Ffordd Elidir, Caernarfon.

Cafodd yr heddlu wybod am y lladrad am 2.55pm ddoe.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n credu fod dau ddyn wedi mynd i mewn i’r Swyddfa Bost â’i hwynebau wedi eu gorchuddio.

Roedd un wedi neidio dros ben y cownter. Ffodd y ddau ag arian parod.

Dywedodd yr heddlu fod y ddau o daldra canolig, bod un yn denau a’r llall yn gadarn o gorff. Roedd y ddau yn gwisgo dillad tywyll.

Mae’r heddlu yn chwilio’r ardal ac yn cynnal ymchwiliadau o dy i dy.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu 0845 6071001. Mae hefyd yn bosib cysylltu â Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.