Caernarfon
Mae cigydd yn cysgu yn ei siop ambell noson er mwyn  rhwystro lladron – ar ôl iddo golli gwerth £10,000 o gig mewn tri lladrad yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae “wir angen gwneud rhywbeth”, meddai Dafydd Wyn Jones, o Gaernarfon, sy’n dweud bod camerâu cylch cyfyng a’r heddlu wedi methu â rhwystro’r lladron.

Er bod offer teledu cylch cyfyng ar dop a gwaelod y stryd, dyw’r heddlu ddim wedi gallu’u defnyddio i ddod o hyd i dystiolaeth, meddai wrth Golwg 360.

Diffodd am hanner nos

“Maen nhw wedi methu gweld dim byd ar y CCTV. Mae’n debyg ei fod o i ffwrdd ar ôl hanner nos,” meddai.

“Yn amlwg, doedd yr heddlu heb fod yn patrolio gan mai fi wnaeth adrodd y digwyddiad iddyn nhw pan ddois i mewn yn y bore. Doedd na neb wedi’i weld o cyn hynny,”   meddai.

Bellach, mae Dafydd Wyn Jones yn cysgu yn y siop ar rai adegau i gadw llygaid ar y sefyllfa. “Os dw i’n gwybod bod neb yn y fflat drws nesaf – mi wna’ i gysgu yn y siop.

“Peth arall dw i wedi stopio’i wneud ydi rhoi bocsys elusennol yn y siop. Mae’n ormod o demtasiwn i ladron. Y tair gwaith ddiwethaf, dyna’r peth cynta’ y maen nhw’n ei wneud ydi mynd am y bocsys”.

‘Pethau’n mynd yn waeth’

Ac yntau’n rhedeg y siop ers 18 mlynedd, mae’n dweud bod cigyddion eraill wedi cael eu taro hefyd a bod pethau’n mynd yn waeth wrth i gig fynd yn ddrutach.

“Mae’n ofnadwy o ddrud,” meddai. “Mae oen werth £150 a bustach werth tua £1,500. Beth bynnag sydd yna, mi wnaiff  lladron ei gymryd, yn focsys o gig moch, sosejys ac yn ham wedi’i goginio.

“Does ’na ddim dwywaith bod dwyn cig wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae pobol yn despret. Dw i’n meddwl mai arian cyffuriau ydi o i’r lladron.

“Mae gwir angen gwneud rhywbeth a sortio’r sefyllfa teledu cylch cyfyng allan. Trïwch chi barcio yn rhywle yng Nghaernarfon ac mae’r warden traffig yno’n syth. Ond, fedr pobol ddwyn gen i heb gael eu dal.”