Mae elusen yn dweud bod Cymru ar ôl gweddill gwledydd Prydain wrth sicrhau hawliau pobol anabl i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau.

Yn ôl Anabledd Cymru mae polisïau cenedlaethol ar fyw’n annibynnol wedi cael eu cyflwyno yn Lloegr a’r Alban, ond nid yng Nghymru.

“Mae’n gwbl annerbyniol nad oes gan Gymru strategaeth genedlaethol ar fyw’n annibynnol,” meddai Prif Weithredwr Anabledd Cymru, Rhian Davies.

“Mae hyn yn rhoi pobol gydag anableddau yng Nghymru dan anfantais o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.”

Rhoi tystiolaeth

Fe fydd yr elusen yn mynd i Lundain heddiw i gyflwyno tystiolaeth i’r Cydbwyllgor ar hawliau Dynol sy’n cael ei gadeirio gan AS Aberafan, Hywel Francis, ac yn ymchwilio i fyw’n annibynnol.
Maen nhw wedi bod yn ymgyrchu am strategaeth byw’n anabl yng Nghymru ac wedi cyflwyno deiseb gyda 700 o enwau arni i Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad.

Yn ôl yr elusen mae byw’n annibynnol yn rhoi cyfle i bobl gydag anableddau gael rhan gyfartal yn y gymdeithas er mwyn iddyn nhw gael “yr un rhyddid, yr un dewis, rheolaetha  chyfleoedd” a phobol eraill.